Wrap ar Ffilmio Trydedd Gyfres BARIAU yn Stiwdios Ffilm Aria
Mae ffilmio trydedd gyfres ddrama boblogaidd S4C, BARIAU, bellach wedi dod i ben, gyda rhan helaeth o’r cynhyrchiad wedi’i leoli yn Stiwdios Ffilm Aria, Llangefni.
Ers ei lansio, mae BARIAU wedi ennill clod am ei phortread realistig a di-flewyn-ar-dafod o fywyd carchar yng Nghymru heddiw. Mae’r gyfres yn dilyn hanes Barry Hardy a’r heriau y mae’n eu hwynebu y tu mewn i furiau’r carchar, gyda’r drydedd gyfres yn addo codi’r stanciau unwaith eto wrth i’w stori ddatblygu.
Ar gyfer y cynhyrchiad, adeiladwyd set garchar bwrpasol o fewn Stiwdios Ffilm Aria, gan gynnwys adain garchar dau lawr gyda 24 cell. Mae’r set wedi chwarae rhan ganolog wrth greu awyrgylch unigryw’r gyfres ac wedi galluogi’r tîm cynhyrchu i ffilmio mewn amgylchedd realistig a rheoledig.
Mae’r prosiect yn tynnu sylw at allu Stiwdios Ffilm Aria i gefnogi cynyrchiadau drama uchelgeisiol drwy ddarparu gofod stiwdio hyblyg, cyfleusterau cynhyrchu o safon uchel, a’r gallu i adeiladu setiau ar raddfa fawr.
Bydd nifer o wynebau cyfarwydd yn dychwelyd yn y gyfres newydd, gan gynnwys Gwion Tegid, Iwan Garmon, Rolant Prys ac Alicia Forde, gyda Lisa Victoria ac Osian Morgan hefyd yn ymuno â chast BARIAU.
Cynhyrchwyd y gyfres gan Rondo Media a chaiff ei dosbarthu’n rhyngwladol gan APC. Ciron Gruffydd yw awdur y gyfres, gyda Alaw Llewelyn Roberts yn cynhyrchu a Griff Rowland yn cyfarwyddo.
Edrychwn ymlaen at weld BARIAU yn dychwelyd i sgriniau S4C yn 2027 ac rydym yn falch bod Stiwdios Ffilm Aria wedi chwarae rhan allweddol yn y bennod nesaf o’r gyfres lwyddiannus hon.

