Gwasanaethau Ategol


EIN GWASANAETHAU
Rydym ni’n gwybod fod pob cynhyrchiad yn wahanol. Gyda’n profiad o’r diwydiant a’n hadnabyddiaeth ddwys o’r ardal leol, fe wnawn ni sicrhau fod popeth ar gael i sicrhau llwyddiant eich cynhyrchiad.
Colur
Ystafell llawn golau naturiol gyda sinciau, drychau a phopeth y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn stiwdio broffesiynol.
Colur
Dŵr
Storio
Sinc
Cawod
Band llydan cyflym, diogel.
Linc byw i’r stiwdio
Gwisgoedd
Mae gennym ni 1,438 TR SG o ofod gwisgoedd. Gallwch hyd yn oed gael defnydd o’r cannoedd o wisgoedd sydd gennym yma eisoes.
Gwisgoedd
Dŵr
Storio
Sinc
Peiriannau golchi
Peiriannau sychu
Cawod
Ystafelloedd newid
Band llydan cyflym, diogel.
Linc byw i’r stiwdio
Ystafell Werdd
Mae ganddo ni Ystafell Werdd 600 TR SG cyfforddus hefo’r coffi gorau wedi’i rostio yn lleol. Mae o’n fan perffaith i ymlacio, mwynhau panad bach a chael ennyd oddi wrth brysurdeb y dydd.
Ystafell Werdd
Y coffi GORAU
Tê rhydd
Dŵr
Storio
Sinc
Band llydan cyflym, diogel
Linc byw i’r stiwdio
Oergell
Ailgylchu
Cadeiriau cyfforddus a soffas
Gweithdai
3,447 TR SG
Dau weithdy ar wahân gyda phŵer, dŵr a wifi cyflym. Asgwrn cefn unrhyw gynhyrchiad, gan roi’r hyblygrwydd i chi adeiladu a storio.
Am Ein Gweithdai
Band llydan cyflym, diogel
Storio
Dŵr
Drws uchder llawn.
Safle caeëdig, diogel.
Digonedd o le parcio.
Swyddfa Gynhyrchu
Swyddfeydd cynhyrchu modern eang. Yr hwb perffaith i yrru eich prosiect yn ei flaen.
Swyddfa 2
Llogi Offer
Beth bynnag fo’ch anghenion, mae gennym ni’r modd i’ch helpu. O lensys, i oleuadau, i beiriannau scissor-lift, gallwn sicrhau bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i gadw’r cynhyrchiad fynd.
Criwio
Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r gweithiwr proffesiynol cywir yn y diwydiant yn yr ardal leol. Gyda chyfeiriadur manwl o’r holl weithwyr proffesiynol profiadol lleol, rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd trwy ein rhaglen Academi ARIA ochr yn ochr â’n partneriaid Screen Alliance Wales, Screen Skills a Phrifysgol Bangor. Rydym wedi ymrwymo i feithrin talent a llunio diwydiant blaengar, cynhwysol.
Lleoliadau
Da’ ni’n adnabod pob cildraeth a chwarel a gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r lleoliad perffaith. Da ni wedi cynhyrchu miloedd o oriau o gynnwys yma a gallwn eich helpu i ddod o hyd i’ch cornel saethu odidog ac unigryw eich hunain yma yng ngogledd Cymru.
Arlwyo
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ochr yn ochr â’n partner arlwyo Dylan’s. Gan ddefnyddio dim ond y cynnyrch Cymreig lleol gorau o ffynonellau cynaliadwy, bydd eu bwydlen flasus yn tanio’ch cynhyrchiad gydag offrymau iach i weddu i’ch holl ofynion dietegol ac alergedd.
Cynaliadwy-edd
RYDYM YN GOFALU AM EIN CLEIENTIAID, AC RYDYM YN GOFALU AM EIN AMGYLCHEDD.
Mae byw a gweithio mewn ardal mor brydferth yn ein gwneud ni’n ofalus iawn o’n amgylchedd. Mae troedio’n feddal wrth galon popeth a wnawn ac rydym yn llwyr gefnogi egwyddorion y Safon Cynaliadwyedd Stiwdio.