Mae Stiwdios Ffilm Aria yn cynnig dau lwyfan sain o safon fyd-eang, wedi’u gwasanaethu’n llawn, yng nghalon Gogledd Cymru, gan ddarparu i gynyrchiadau rhyngwladol gyfuniad prin o seilwaith stiwdio proffesiynol a mynediad uniongyrchol at amrywiaeth eang o leoliadau. O ardaloedd o harddwch naturiol a Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO i drefi llawn cymeriad ac amgylcheddau trefol cyfoes, mae’r rhanbarth yn cynnig ystod unigryw o gefndiroedd ar gyfer cynyrchiadau o bob maint.

Wedi’u lleoli lai na dwy awr o Feysydd Awyr Rhyngwladol Lerpwl a Manceinion, ac oddeutu tair awr a hanner o Lundain, mae Stiwdios Ffilm Aria yn cynnig mynediad hwylus i gast, criwiau ac offer cynhyrchu, tra’n darparu tirwedd sinematig sy’n anaml ei chael mor agos at brif ganolfannau cynhyrchu’r DU. Mae’r ardal gyfagos yn cynnwys mynyddoedd dramatig, arfordir trawiadol, cestyll hanesyddol, chwareli llechi, coedwigoedd, lleoliadau gwledig, ynghyd ag amrywiaeth o drefi a dinasoedd, oll o fewn ychydig funudau i’r llwyfannau.

Mae Stiwdios Ffilm Aria wedi sefydlu ei hun fel canolfan gynyddol bwysig ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu rhyngwladol, gan groesawu prosiectau mawr a gefnogir gan rai o stiwdios a chynhyrchwyr mwyaf blaenllaw’r byd. Ymhlith y cynyrchiadau diweddar mae Anemone, a gynhyrchwyd gan Focus Features, NBCUniversal a Plan B, gyda Daniel Day-Lewis yn serennu, yn ogystal â chynyrchiadau rhyngwladol eraill sy’n cynnwys talent o’r radd flaenaf, gan gynnwys enillydd Gwobr yr Academi, Syr Anthony Hopkins. Mae’r prosiectau hyn yn adlewyrchu enw da Stiwdios Ffilm Aria fel canolfan gynhyrchu hyblyg o ansawdd uchel, sy’n gallu cefnogi cynyrchiadau o safon fyd-eang a chadarnhau lle Gogledd Cymru ar lwyfan rhyngwladol y diwydiant ffilm a theledu.

9,500 TR SG

Llwyfan 1

Manylion y llwyfan
6,500 TR SG

Llwyfan 2

Manylion y llwyfan

EIN GWASANAETHAU

Rydym ni’n gwybod fod pob cynhyrchiad yn wahanol. Gyda’n profiad o’r diwydiant a’n hadnabyddiaeth ddwys o’r ardal leol, fe wnawn ni sicrhau fod popeth ar gael i sicrhau llwyddiant eich cynhyrchiad.

Gan ein partneriaid a’n cleientiaid

Roedd ffilmio Anemone yn Stiwdios Ffilm Aria yn brofiad gwych o’r dechrau i’r diwedd. Darparodd y llwyfannau sain a chyfleusterau’r stiwdio, sydd o safon fyd-eang, bopeth yr oeddem ei angen i wireddu gweledigaeth greadigol y ffilm gyda manylder a gofal. Aeth tîm Aria y cam ychwanegol i gefnogi pob agwedd o’r cynhyrchiad, gyda’u proffesiynoldeb a’u hyblygrwydd yn sicrhau ffilmio di-dor a llwyddiannus. Cynigiodd Aria y cyfuniad perffaith o ragoriaeth dechnegol gyda mynediad i dirweddau anhygoel Gogledd Cymru, gan ffurfio rhan annatod o awyrgylch a dyfnder emosiynol y ffilm. Mae'n gyfleuster o'r radd flaenaf ar gyfer gwneud ffilmiau ac ni allaf ei argymell ddigon.

Jeremy CampbellCyd-Gynhyrchydd 'Anemone'

Roedd gweithio gyda'r tîm yn Aria yn brofiad rhagorol o'r dechrau i'r diwedd. Dan arweiniad y Gweithredwr Stiwdio Iddon Jones, darparodd y tîm gefnogaeth gwbl gadarn ac ateb pob galw yn ystod ein cyfnod ffilmio gyda phroffesiynoldeb llwyr. Mae'r adnodd ei hun yn fodern ac yn hygyrch ond yr hyn a safodd allan yn fwy na dim oedd yr agwedd bositif ‘can-do' - doedd dim byd byth yn broblem a chafwyd ymateb cwbl effeithlon i bob un cais. Roedd yn brofiad di-fai, o'r radd flaenaf ac fe fyddaf yn bendant yn dychwelyd yno ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Huw Penallt JonesCynhyrchydd 'A Visit To Grandpa's'

Profodd Aria i fod yn lleoliad ac uned gynhyrchu arbennig i ni. Dyma’r unig ofod ffilmio pwrpasol yn y rhanbarth a fyddai wedi gallu darparu ar gyfer cynhychriad o'i fath. Roedd lleoliad Aria yn golygu bod ein cynhyrchiad wedi elwa ar gyfoeth o opsiynau lleoliad gerllaw, o draethau a mynyddoedd golygfaol i leoliadau trefol a diwydiannol. Roeddem yn gallu teilwra’r cyfleuster yn llawn i’n hanghenion ac roedd gennym ddigon o le ar gyfer pob uned.

Alaw LlewelynCynhyrchydd

Mae Cymru Greadigol yn falch iawn o gefnogi sefydlu’r cyfleuster stiwdio wrthsain hwn o safon uchel yng nghanol Gogledd Cymru lle mae cymaint o gynyrchiadau ffilm a theledu yn cael eu denu gan y tirweddau syfrdanol. Bydd y cyfleuster hwn yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol yn y sector ffilm a theledu gan alluogi cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygu gyrfa a buddsoddi yng Ngogledd Cymru.

Cymru Greadigol

Rydym ni wrth ein boddau fod gennym adnoddau gwych yma i dyfu a datblygu ein cyfres tua’r dyfodol.

Manon Lewis OwenCynhyrchydd Cyfres, Rownd a Rownd

EIN PARTNERIAID

S4C
Dylan's Restaurant
Rondo Media Logo