Stiwdios Ffilm Aria yn croesawu ffilm newydd Syr Anthony Hopkins wrth i’r adnodd barhau i ddenu gwaith rhyngwladol
Mae Stiwdios Ffilm Aria wedi croesawu Syr Anthony Hopkins i’w stiwdios yng Ngogledd Cymru. Mae’r actor, enillydd dwy wobr Oscar, wedi dod i Aria i ffilmio’r cynhyrchiad A Visit to Grandpa’s, gan amlygu gallu’r stiwdio i ddenu ffilmiau o’r radd flaenaf yn y DU ac yn rhyngwladol.
Addasiad o stori fer gan Dylan Thomas yw’r ffilm newydd ac mae Hopkins yn ymddangos ynddi, ochr yn ochr â Catherine Zeta-Jones. Dyma ddod â dau o dalentau sgrin mwyaf cydnabyddedig Cymru at ei gilydd ar gynhyrchiad a ddechreuodd ffilmio yng Nghymru ar Ebrill y 7fed.
Fe ddaw’r cynhyrchiad i Aria yn dilyn llwyddiant y stiwdios i fod yn gartref i’r ffilm Hollywood Anemone, gyda Daniel Day-Lewis, ffilm wedi ei chynhyrchu mewn cydweithrediad â Plan B Entertainment, Focus Features a NBC Universal. Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn gam sylweddol ymlaen i’r stiwdios yn Ynys Môn wrth lwyddo i ddenu cynyrchiadau rhyngwladol nodedig i Ogledd Cymru.
Dywedodd Swyddog Gweithredol y Stiwdio, Iddon Jones: “Rydym yn falch o fod wedi croesawu Syr Anthony Hopkins i Aria. Mae A Visit to Grandpa’s yn brosiect arbennig, sydd wedi’i wreiddio yn niwylliant Cymru ond sydd â pherthnasedd byd-eang ac yn adlewyrchu’n union y math o gynhyrchiad uchelgeisiol y cafodd Aria ei adeiladu i’w gefnogi.
“Yn dilyn Anemone, mae hyn yn gam pwysig arall wrth sefydlu Aria fel stiwdio ddibynadwy ar gyfer cynyrchiadau yn y DU a rhyngwladol, sy’n gallu darparu cyfleusterau arbennig a chynnal talent o’r radd flaenaf.”
Canmolodd y cynhyrchydd Huw Penallt Jones adnoddau’r stiwdio, gan ddweud: “Roedd gweithio gyda’r tîm yn Aria yn brofiad eithriadol o’r dechrau i’r diwedd. Dan arweiniad Iddon Jones, darparodd y tîm gefnogaeth lwyr ac ymdrin â phob galw gan ein criw cynhyrchu gyda phroffesiynoldeb llwyr.
“Mae’r cyfleuster ei hun yn fodern ac yn hygyrch iawn, ond yr hyn sy’n eithriadol oedd eu hagwedd ‘can-do’ – nid oedd unrhyw beth yn broblem, ac roedd pob cais yn cael ei weithredu gydag effeithlonrwydd trawiadol. Roedd yn brofiad gwych a byddaf yn bendant yn dychwelyd eto ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.”
Wrth fyfyrio ar ei amser yn y stiwdio, canmolodd Syr Anthony Hopkins y cyfleuster, gan alw Aria yn “stiwdio hyfryd”.
Cyfarwyddwr y ffilm yw DJ Caruso ac awdur y sgript yw Ken Aguado. Ymhlith aelodau eraill y cast mae Aneurin Barnard, Artie Wilkinson-Hunt, Geraldine James, Aimee-Ffion Edwards a Celyn Jones. Fe’i cynhyrchwyd gan Huw Penallt Jones, Hannah Leader ac Amory Leader, ac mae’r ffilm yn gyd-gynhyrchiad Ewropeaidd gan Adler Entertainment ac U-Media.
Sefydlwyd Aria Film Studios gan y cwmni cynhyrchu annibynnol Cymreig Rondo Media ynghyd â changen fasnachol S4C, S4C Digital Media Limited a gyda chefnogaeth Cymru Greadigol a Llywodraeth

