STIWDIOS ARIA YN GARTREF I FFILM NEWYDD DANIEL DAY-LEWIS
Cafodd ffilm newydd Daniel Day-Lewis, Anemone, ei ffilmio yn Stiwdios Aria ar Ynys Môn. Mae’r ffilm hir-ddisgwyliedig hon yn nodi dychweliad yr actor eiconig i’r sgrîn ar ôl wyth mlynedd.
Mae Stiwdios Aria wedi eu lleoli yng nghalon lleoliadau godidog Gogledd Cymru, a bu’n gartref perffaith i’r cynhyrchwyr allu gwireddu eu gweledigaeth ar gyfer y ffilm hon.
O dawelwch gwledig y cwt anghysbell i draethau dramatig a choedwigoedd dirgel, roedd popeth o fewn ychydig funudau i’r llwyfannau sain safonol yn Stiwdios Aria, gan ddarparu’r gofod preifat a chreadigol perffaith i gynhyrchu ffilm ddiweddaraf Day-Lewis.
Ymgartrefodd y ffilm ar y llwyfan fwyaf yn Aria, gan ffilmio yno yn ystod haf a hydref 2024. Aria hefyd weithredodd fel cartref sefydlog y cynhyrchiad tra’r oedd yr uned yn ffilmio tirweddau allanol mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Cymru.
Mae mab Daniel Day-Lewis, Ronan Day-Lewis, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr ar y prosiect, gyda’r tad a’r mab wedi cyd-ysgrifennu’r sgript. Mae’r stori yn archwilio “y cysylltiadau cymhleth a dwfn sydd rhwng brodyr, tadau, a meibion.” Mae Sean Bean a Samantha Morton yn serennu ochr yn ochr â Day-Lewis, ac mae un arall o sêr y sgrîn, Brad Pitt, yn un o gynhyrchwyr y ffilm. Mae’r cynhyrchiad Focus Features/Plan B yn cael ei ddosbarthu’n rhyngwladol gan Universal Pictures International.
Ffilm ddiwethaf Day-Lewis oedd Phantom Thread gan Paul Thomas Anderson yn 2017. Caiff ei ystyried fel un o actorion sgrîn gorau yr oes fodern, ar ôl ennill tair Oscar am y prif actor yn Lincoln, There Will Be Blood a My Left Foot.
Dywedodd Jeremy Campbell, Cyd-Gynhyrchydd Anemone:
“Roedd ffilmio Anemone yn Stiwdios Ffilm Aria yn brofiad gwych o’r dechrau i’r diwedd. Darparodd y llwyfannau sain a chyfleusterau’r stiwdio, sydd o safon fyd-eang, bopeth yr oeddem ei angen i wireddu gweledigaeth greadigol y ffilm gyda manylder a gofal. Aeth tîm Aria y cam ychwanegol i gefnogi pob agwedd o’r cynhyrchiad, gyda’u proffesiynoldeb a’u hyblygrwydd yn sicrhau ffilmio di-dor a llwyddiannus. Cynigiodd Aria y cyfuniad perffaith o ragoriaeth dechnegol gyda mynediad i dirweddau anhygoel Gogledd Cymru, gan ffurfio rhan annatod o awyrgylch a dyfnder emosiynol y ffilm. Mae’n gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer gwneud ffilmiau ac ni allaf ei argymell ddigon.”
Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru:
“Mae Aria wedi dod yn hwb rhanbarthol hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau a thalent ac wedi bod yn yrrwr economaidd pwysig yng Ngogledd Cymru ers 2023. Mae cael ei ddewis fel prif ganolfan ar gyfer cynhyrchiad mawr Hollywood yn dystiolaeth i’r enw da y mae Cymru wedi’i ennill fel cyrchfan ffilmio flaenllaw. Boed i hyn barhau.”
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, ar ran cangen fasnachol S4C Digital Media Limited:
“Mae’n achos balchder mawr bod Stiwdios Aria wedi cael eu defnyddio ar gyfer y cynhyrchiad rhyngwladol o ansawdd uchel hwn. Nid yn unig mae’r stiwdio yn cynnig cartref perffaith ar gyfer cyfresi poblogaidd S4C megis Rownd a Rownd, Parc Glan Gwil, a Bariau, ond mae hefyd yn denu ffilmiau uchel eu proffil, sy’n dystiolaeth i’n partneriaethau arloesol gyda Rondo Media, Creative Wales, a’r sector darlledu rhyngwladol.”
Ychwanegodd Iddon Jones, Gweithredwr Stiwdios Aria:
“Roedd yn bleser croesawu’r ffilm hon. Dangosodd ein stiwdio ei gallu i fodloni gofynion ffilmiau premiwm, tra’n darparu’r gofod i’r tîm cynhyrchu wireddu eu gweledigaeth greadigol yn llawn. Wedi’u hamgylchynu gan dirweddau syfrdanol, mae Aria yn cynnig lleoliad unigryw lle mae straeon sinematig yn dod yn fyw. Mae gennym lu o brosiectau cyffrous dros y misoedd nesaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ysbrydoledig eraill i alluogi cynhyrchu cynnwys arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y byd.”

